

AberRAStwyth
Croeso i AbeRAStwyth - cyfres 5K newydd sbon yn ystod yr haf a gynhelir gan Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, fydd yn digwydd ar 25 Mehefin, 30 Gorffennaf, a 27 Awst. Wedi'i chynllunio i apelio at glybiau pêl-droed, rhai sydd am gyrraedd eu hamserau personol gorau, a rhedwyr cymdeithasol, mae'r digwyddiad cyflym a chyfeillgar hwn yn gystadleuol, yn hwyl, ac yn hygyrch i bob lefel. Gyda thair ras drwy'r haf, mae'n ffordd wych o gadw'n ffit, i ddilyn eich cynnydd, ac os ydych yn bêl-droediwr i’ch paratoi ar gyfer dechrau'r tymor newydd.
Gwobrau:
3 Gorau yn gyffredinol, Gwryw a Benyw – I fod yn gymwys, rhaid i'r rhedwyr hyn gwblhau o leiaf ddwy ras.
Enillwyr y categori oedran (1af safle ym mhob un) – I fod yn gymwys, rhaid i gyfranogwyr gwblhau o leiaf ddwy o’r tair ras.
Sgorio Tîm – Cyfres 5K Rhedeg a Chlwb Pêl-droed (3 Ras)
Gall pob clwb gofrestru cymaint o redwyr ag y dymunant – ond i gael cyfle i ennill, gwnewch yn siŵr bod gennych o leiaf 3 rhedwr ym mhob ras.
Ar ôl pob ras, byddwn yn cymryd y tri gorffenwr cyflymaf o bob clwb ac yn cyfuno eu hamseroedd i gael amser y tîm ar gyfer y ras honno.
Byddwn yn ailadrodd hyn ar gyfer y tair ras – gan ddefnyddio tri gorffennwr gorau pob clwb bob tro.
Ar ddiwedd y gyfres, byddwn yn adio tair amser gorau pob clwb o bob ras (9 gwaith i gyd) i gael eu hamser cyfres cyffredinol.
Y clwb gyda'r cyfanswm amser isaf ar draws y tair ras fydd yn ennill Gwobr y Tîm ac yn ennill teitl y Clwb Cyflymaf yng Ngheredigion.
Peidiwch â phoeni – byddwn ni’n delio â’r holl gyfrifiadau. Canolbwyntiwch ar gyrraedd a rhedeg yn gyflym!
