
Trefelin BGC yn erbyn Airbus UK Broughton


Rownd Derfynol Cwpan Cynghrair Gwasanaeth Gwaed Cymru 2025

Bydd Trefelin ac Airbus UK Broughton yn cwrdd yn rownd derfynol genedlaethol Cwpan Cynghrair Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Park Avenue yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 26 Ebrill (cic gyntaf 17:15).
Hawliodd y ddwy ochr fuddugoliaeth yn y rowndiau terfynol rhanbarthol nos Wener i symud un cam i ffwrdd o ogoniant cenedlaethol am y tro cyntaf.
Enillodd Trefelin 3-1 yn erbyn Penrhiwceiber Rangers yn yr adran Ddeheuol, tra bod Airbus wedi dod o’r fantol i ennill 2-1 yn erbyn Bangor 1876 yn y Gogledd.
Bydd tocynnau ar gyfer y rownd derfynol ar gael ag arian parod yn unig wrth y giât, yn costio £5 i oedolion a £2 i bobl sy'n derbyn consesiynau.
Am y drydedd tymor yn olynol, bydd y gêm yn cael ei darlledu ar RedWall+ , tra bydd hefyd ar gael i'w gwylio ar sianel YouTube swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru .
