DIOLCH YN FAWR, PHIL A RUTH THOMAS
- media3876
- May 28
- 1 min read

Datganiad – Phil a Ruth Thomas
Hoffai Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth gofnodi ein diolch i Phil a Ruth Thomas am eu hymroddiad, eu cefnogaeth, a'u hymrwymiad i'r Clwb ar ôl 10 mlynedd o redeg Lolfa John Charles yn Stadiwm Coedlan y Parc Prifysgol Aberystwyth.
Mae croeso Phil a Ruth yn Lolfa John Charles wedi bod yn ail i neb yng nghylchoedd pêl-droed Cymru ac o fewn y gymuned leol — a bydd yn anodd eu dilyn. Bydd eu haelioni ar ddiwrnodau gêm a'u cyfraniad i'r Clwb yn cael eu cofio am amser hir.
Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn dymuno’r gorau iddyn nhw dau yn eu menter nesaf a bydd croeso cynnes bob amser ar Goedlan y Parc i Phil, Ruth, a’r teulu oll.
Komentáre