top of page
ATFC Logo Llawn.png

Hysbyseb

KIT ENGHRAIFFT HYSBYSEB.gif

RHAGOLWG GEM: TREF ABERYSTWYTH VS CEI CONNAH

Ar ôl 33 mlynedd, mae’r llen yn disgyn ar amser Tref Aberystwyth fel un o glybiau Uwch Gynghrair JD Cymru ddydd Sadwrn yma (am y tro o leiaf), wrth i’ ni groesawu Nomadiaid Cei Connah ar gyfer cic gyntaf amser cinio.


Dim ond llond dwrn o’r garfan bresennol a aned pan gychwynnodd Aber eu hymgyrch cynghrair gyntaf, yn yr hyn a elwid bryd hynny y Konica League of Wales. Rhoddodd goliau gan Mike Davies (2) ac Anthony Thomas fuddugoliaeth o 3-2 i dîm Tomi Morgan ar y diwrnod agoriadol, yn erbyn Caersws ar Goedlan y Parc.

 

Byddai’r tîm yn gorffen yn 3ydd yn y tymor cyntaf hwnnw – gorffeniad uchaf Aber hyd yma. Bu digon o uchafbwyntiau ac ychydig o isafbwyntiau yn y 32 tymor canlynol ac er nad yw'r tymor hwn wedi mynd fel y byddai unrhyw un wedi gobeithio, mae yna ddigon o resymau i fod yn obeithiol y gall ATFC ddychwelyd yn gyflym i'r hediad uchaf y tymor nesaf.

 

Gwahanodd ymwelwyr dydd Sadwrn, Cei Connah, gwmni â’r rheolwr Billy Paynter y penwythnos diwethaf, ar ôl colli yn erbyn Tref y Barri. Fe wnaeth y colled hynny roi diwedd ar unrhyw obeithion o gipio’r 7fed safle holl bwysig, er y gallai Nomadiaid barhau i gymhwyso i Ewrop pe baent yn trechu’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru ym mis Mai.

 

Er bod y tymor hwn wedi bod yn un siomedig gan Nomads o’u safon uchel yn ddiweddar, mae ganddyn nhw brif sgoriwr y gynghrair yn eu rhengoedd. Mae Rhys Hughes wedi rhwydo 16 o weithiau y tymor hwn, un ar y blaen i James Crole o Benybont a Louis Lloyd o Gaernarfon.

 

Hwn fydd y 5ed cyfarfod rhwng y ddau glwb y tymor hwn. Enillodd Nomadiaid y ddwy gêm gynghrair yn eu cartref yng Nghae Y Castell, gyda gêm gynghrair gyntaf ar Goedlan y Parc Prifysgol Aberystwyth yn gêm gyfartal, serch hynny Aber oedd yn fuddugol yn Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG yng Nghae Y Castell nôl ym mis Hydref.

 

Nid yw Coedlan y Parc wedi bod yn faes hela hapus i'r Nomadiaid yn y blynyddoedd diwethaf – daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf yng Ngheredigion yn ôl yn 2021. Bydd y Fyddin Werdd yn gobeithio y bydd y rhediad hwn yn parhau ddydd Sadwrn ac y bydd y tîm yn ffarwelio ag Uwch Gynghrair Cymru gyda pherfformiad da ac ychydig o falchder.

 

Wrth i'r tymor ddirwyn i ben, ni ddylai gêm dydd Sadwrn fod yn amser i dristwch, ond yn amser i ddathlu. Mae cynnal pêl-droed o'r radd flaenaf am 33 mlynedd yn gyflawniad aruthrol, y mae cymaint o bobl wedi cyfrannu ato dros y blynyddoedd.

 

Mae tocynnau diwrnod gêm ar gael ag arian parod neu gerdyn wrth y gatiau tro. Mae prisiau mynediad ar Goedlan y Parc Prifysgol Aberystwyth ar gyfer 2024/5 yn £8 i oedolion, £5 ar gyfer consesiynau, £2 i blant oed Ysgol Uwchradd, ac mae Ysgol Gynradd ac iau am ddim.



Comments


KIT ENGHRAIFFT HYSBYSEB.gif
  • Instagram
  • X
  • Facebook
  • YouTube
bottom of page