Uwchgynghrair JD Cymru Premier League
Sad/Sat 13 Ebrill/April (CC/KO 2.30yh/pm) Y Barri/Barry Town United v Tref Aberystwyth Town Taith i Barc Jenner sydd o flaen Tref Aber am eu gem gynderfynol yn nhymor 2023/24 gydag Anthony Williams a’i dim i wynebu Tref y Barri brynhawn Sadwrn. Aber Town’s penultimate match of the 2023/24 season takes Anthony Williams and his team to Jenner Park for an encounter with Barry Town United on Saturday afternoon. Cymerodd rheolwr Tref Aber Anthony Williams amser yr wythnos hon i ganu clodydd cefnogwyr ffyddlon y Gwyrdd a’r Duon ym Mhontypridd nos Fawrth.
Aber Town Manager Anthony Williams took time this week to sing the praises of the Black and Greens’ faithful following at Pontypridd on Tuesday night. Rheolwr Tim Cyntaf Menywod CP Tref Aberystwyth/Aberystwyth Town FC Womens First Team Manager10/4/2024
Mae’r clwb yn derbyn ceisiadau ar gyfer rôl rheolwr tim cyntaf y menywod. Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 3ydd o Fai 2024. Am ragor o wybodaeth a cheisiadau drwy CV a ffurflen gais, ebostiwch abertownladiesfc@gmail.com The club are inviting applications for the role of Women’s First Team Manager. More information below. The closing date for applications is May 3rd, 2024.
For further information and applications via CV and covering letter, email abertownladiesfc@gmail.com. Uwchgynghrair JD Cymru Premier League
Mawrth/Tuesday 9 Ebrill/April Pontypridd United/Unedig 0 Tref Aberystwyth Town 0 O dan warchae, amddiffynodd deg dyn Aber yn arwrol neithiwr ym Mhontypridd i enill pwynt gwerthfawr ar eu gorymdaith hir i achubiaeth. Aeth Aber yn agos i sgorio drwy John Owen a Jonathan Evans ond roedd eu cefnau yn erbyn y wal pan anfonwyd Jack Thorn o’r cae ar ol 78 munud. Arbediadau penigamp Dave Jones helpodd Aber i ddal ymlaen i’w pwynt pwysig. Under immense pressure ten men Aber defended heroically at Pontypridd last night to gain a potentially crucial point on their long walk to safety. Town went close to scoring through John Owen and Jonathan Evans, but were up against it when Jack Thorn was sent off on 78 minutes. Dave Jones however made some super saves and Aber held on for the draw. Uwchgynghrair JD Cymru Premier League
Mawrth/Tuesday 9 Ebrill/April (CC/KO 7.45yh/pm) Pontypridd Unedig/United v Tref Aberystwyth Town Mis yn union ar ol i’r gem gael ei gohirio munudau cyn y cic gyntaf, bydd Tref Aber unwaith eto yn teithio i’r De nos yfory i wynebu Pontypridd Unedig. Exactly a month on from the original fixture being postponed just before KO, Aber Town once again travel south tomorrow evening to face Pontypridd United. Uwchgynghrair JD Cymru Premier League
Sadwrn/Saturday 6 Ebrill/April Tref Aberystwyth Town 0 Penybont 3 Roedd Penybont yn meistri corn prynhawn ddoe, ac yn glinigol yn y glaw ar Goedlan y Parc, gyda goliau Ryan Renolds (45+1 munud) a Chris Venables (57 a 62 munud) yn ddigon i drechu’r Gwyrdd a’r Duon yn haeddiannol. Aber Town were second best at home to clinical Penybont at a rainy Park Avenue yesterday evening, with goals from Ryan Reynolds (45+1 mins) and Chris Venables (57 and 62 mins) enough to earn a deserved away win for the men from Bridgend. |
Gem Nesaf
|
Ebost / Email: AberTownFC@live.co.uk
|
© 2023 Aberystwyth Town Football Club. All Rights Reserved
|
Cyfeiriad / Address: ATFC Ltd, Park Avenue, Aberystwyth, SY23 1PG.
|