Bydd chwaraewyr a chefnogwyr yn dangos eu cefnogaeth i Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn ystod gêm bêl-droed a gynhelir yn Aberystwyth.
Bydd Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn wynebu Hwlffordd mewn gêm sy’n rhan o gynghrair Cymru Premier League ddydd Gwener, 14 Hydref 2022, i ddechrau am 8pm. Mae Tîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru wedi cydweithio â Chanolfan Gymorth Casineb Cymru yn Victim Support i wneud gwaith ymgysylltu yn ystod y gêm ar gyfer cefnogwyr. Yn rhan o’r digwyddiad, bydd yna gyhoeddiad swyddogol cyn y gic gyntaf, baner ar ochr y cae yn codi ymwybyddiaeth o Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2022, stondin wybodaeth yn y clwb cyn y gic gyntaf ac yn ystod hanner amser. Yn ogystal â hyn, bydd cymorth a gwybodaeth ar gael gan Victim Support a’r Tîm Cydlyniant, ynghyd â wal addewidion lle anogir chwaraewyr, swyddogion y gêm a chefnogwyr i roi negeseuon yn addo cydsefyll â dioddefwyr Troseddau Casineb ac i beidio â goddef hiliaeth na chasineb mewn chwaraeon. Mae’r digwyddiad hwn yn un o gyfres o fentrau a digwyddiadau i hyrwyddo a chefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, a chefnogir y digwyddiad ymgysylltu gan nifer o asiantaethau partner, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Canolfan Gymorth Casineb Cymru yn Victim Support, Clwb Pêl-droed Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Hwlffordd, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberystwyth, Heddlu Dyfed-Powys, Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Meithrin ymwybyddiaeth Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Gydlyniant Cymunedol: “Rydym yn falch i gefnogi’r digwyddiad lleol hwn i dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Ni ddylai neb ddioddef trosedd casineb ac mi fydden ni’n annog unrhyw un sy’n cael ei effeithio i roi gwybod amdano drwy gysylltu â’r heddlu neu Victim Support. Rwy’n siŵr y bydd y ddau dîm yn rhoi o’u gorau ar y cae pêl-droed ac y bydd y cefnogwyr yn mwynhau mas draw, a, gobeithio yn gwerthfawrogi ffordd arloesol o feithrin ymwybyddiaeth o’r mater pwysig hwn.” Ategodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Gall profi trosedd casineb fod yn brofiad hynod o frawychus, a gall adael effaith hirdymor ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’n cymunedau. Mae’n braf gweld clybiau pêl-droed Hwlffordd ac Aberystwyth yn chwarae eu rhan drwy godi ymwybyddiaeth pobl o effaith troseddau casineb heddiw. Y gobaith yw y bydd y gêm hon, ynghyd â phob gweithgaredd a digwyddiad arall a gynhelir yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, yn addysgu pobl am eu cyfrifoldebau ac yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i’w helpu i herio’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n arwain at droseddau casineb.” Becca Rosenthal yw Rheolwr Canolfan Gymorth Casineb Cymru ar gyfer Victim Support, a dywedodd: “Pwrpas Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yw codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, sut i adrodd amdano a’r Cymorth sydd ar gael i bobl a chymunedau yr effeithir arnynt. Mae hefyd yn ymwneud â dangos undod â’r rhai yr effeithir arnynt, cofio am bobl yr ydym wedi colli a chefnogi pobl sydd angen cymorth. Mae yna rywbeth pwerus iawn ynghylch dod ynghyd trwy iaith fyd-eang chwaraeon i ddangos cryfder ein cydsafiad a’n hundod.” Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn croesawu’r fenter hon yn fawr fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu a hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb ym mhob agwedd o’i gweithrediadau a’i gweithgareddau, ac i ddarparu amgylchedd astudio cynhwysol, heb wahaniaethu, ac arddel gwerthoedd parch, urddas a chwrteisi. Mae cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb a’u heffeithiau niweidiol ar unigolion a chymdeithas yn hollbwysig ac rydym yn cymeradwyo ymrwymiad y timau pêl-droed a’r partneriaid sy’n cefnogi’r digwyddiad hwn.” Cefnogodd Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yr ymgyrch trwy ddweud: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch i gefnogi’r digwyddiad hwn yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Mae gan sefydliadau ac unigolion ran bwysig i’w chwarae wrth geisio gwaredu â gwahaniaethu yn ein cymunedau ac mae digwyddiadau o’r fath yn un enghraifft o’r gwaith rydym yn ei wneud ar y cyd â phartneriaid eraill. Mae staff y Bwrdd Iechyd yn falch o weithio mewn partneriaeth i gefnogi mentrau tebyg i’r rhain sy’n ceisio meithrin ymwybyddiaeth o effeithiau niweidiol troseddau casineb.” Beth yw trosedd casineb a sut y mae adrodd amdani? Trosedd casineb yw unrhyw ymddygiad troseddol yr ymddengys ei fod wedi’i ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn, neu sy’n cynnwys geiriau neu ymddygiad sy’n dangos gelyniaeth, yn seiliedig ar yr hyn a dybir am nodweddion canlynol yr unigolyn:
Os ydych yn profi trosedd casineb, gallwch ffonio’r heddlu yn uniongyrchol trwy alw 999 os ydych mewn perygl ar y pryd, neu 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai argyfyngus. Ffoniwch 0300 30 31 982 (am ddim 24/7) i gysylltu â Victim Support yn uniongyrchol. Bydd y galwadau’n cael eu trin yn gyfrinachol a bydd gennych yr opsiwn i barhau’n anhysbys. Gallwch hefyd adrodd amdano ar-lein: www.reporthate.victimsupport.org.uk Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisiau/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth/trosedd-casineb/ ____________________________________________ Players and fans will show their support to Hate Crime Awareness Week during a football match held in Aberystwyth. On Friday 14 October 2022, Aberystwyth Town Football Club will take on Haverfordwest County in a Cymru Premier League game with kick-off at 8pm. The Mid and South West Wales Community Cohesion Team have teamed up with The Wales Hate Support Centre at Victim Support to offer an engagement at the game for supporters. The event will feature an official announcement before kick-off, a pitch side banner raising awareness of HCAW 2022, an information stand in the club house before kick-off and during half time. In addition to this, support and information will be available from Victim Support and the Cohesion Team, as well as a pledge wall where players, match officials and supporters will be encouraged to leave their messages promising to be allies with victims of Hate Crime and to never tolerate racism or hate in sport. This is one of several initiatives and events promoting and supporting Hate Crime Awareness Week, and the engagement event is supported by several partner agencies including Aberystwyth Town FC, Aberystwyth Town Council, Aberystwyth University, Aberystwyth University Student Union, Ceredigion County Council, Dyfed Powys-Police, Dyfed-Powys Police and Crime Commissioner, Haverfordwest County AFC, Hywel Dda University Health Board, and The Wales Hate Support Centre at Victim Support. Raising awareness Councillor Catrin M S Davies, Ceredigion County Council Cabinet Member with responsibility for Community Cohesion, said: “We are proud to support this event to raise awareness of Hate Crime Awareness Week. No-one should experience a hate crime and we encourage anyone who is affected to report it by contacting the Police or Victim Support. I’m sure both teams will give their best on the pitch and the fans will thoroughly enjoy, and hopefully will appreciate the innovative way of raising awareness of this important matter.” Dafydd Llywelyn, Dyfed-Powys Police and Crime Commissioner, added: “Experiencing hate crime can be a particularly frightening experience, and can have a long-lasting effect on victims, their families and our communities. It is pleasing to see both Haverfordwest County, and Aberystwyth Town Football Clubs playing their part in raising people’s awareness of the impact of hate crime today. This game, as well as every other activity and event taking place during Hate Crime Awareness week will hopefully educate people about their responsibilities and provide them with the knowledge and skills to help them challenge the attitudes and behaviours that lead to hate crime.” Becca Rosenthal is the Manager for Wales Hate Support Centre at Victim Support, and she said: “The purpose of Hate Crime Awareness Week is to raise awareness of hate crime, ways to report and the support available for people and communities that have been affected. It is also about showing solidarity to those affected, to remember those we have lost and support those that need it. There is something really powerful about coming together through the universal language of sport in this way to show solidarity, unity and the strength of Allyship.” Professor Tim Woods, Pro Vice-Chancellor for Learning, Teaching and Student Experience at Aberystwyth University, said: “We wholeheartedly welcome this initiative as part of Hate Crime Awareness Week. The University is committed to developing and promoting equality and diversity in all our practices and activities, and to provide a study and work environment that is inclusive, free from discrimination and one that upholds the values of respect, dignity and courtesy. Opportunities to raise awareness of hate crime and its corrosive effects on individuals and society are most important and we applaud the commitment of both football teams and the partner agencies who support this event.” Anna Bird, Assistant Director of Strategic Partnerships, Diversity and Inclusion for Hywel Dda University Health Board, also supported the campaign by saying: “Hywel Dda University Health Board is pleased to be supporting this event as part of Hate Crime Awareness Week. Organisations and individuals have an important role to play in striving to eliminate discrimination within our communities and these events are just one example of the work that we do jointly with other partners. Health Board staff are pleased to work in partnership to support initiatives that like this that aim to raise awareness of the harmful effects of hate crime.” What is a hate crime and how to report it? A hate crime is any criminal behaviour which appears to be motivated by a hostility or prejudice, or includes words or behaviour that show hostility, based on a person’s perceived:
If you experience a hate crime, you can call the police directly by dialling 999 if you are in immediate danger, or 101 for non-emergencies. Ring 0300 30 31 982 (free 24/7) to contact Victim Support directly. Calls are treated confidentially and you have the option to remain anonymous You can also report online at www.reporthate.victimsupport.org.uk More information is available here: www.ceredigion.gov.uk/your-council/strategies-plans-policies/equality-diversity/hate-crime Comments are closed.
|
Gem Nesaf
|
Ebost / Email: [email protected]
|
© 2024 Aberystwyth Town Football Club. All Rights Reserved
|
Cyfeiriad / Address: ATFC Ltd, Park Avenue, Aberystwyth, SY23 1PG.
|