Following an invitation from David Melding AM (Deputy Presiding Officer National Assembly for Wales) the Dafabet Welsh Premier League was officially launched at the Senedd on Tuesday lunchtime in the company of players and representatives from the twelve member clubs. Mr Melding said: “We are delighted to host the official launch of the Dafabet Welsh Premier League here at the Senedd. It’s encouraging to see Welsh football in such a strong state and I’d like to wish the best of luck to all the teams in the forthcoming campaign.” League Chairman Peter Rees was complimentary of the recent European performances of the WPL representatives over the summer months: “The New Saints and Newtown deserve special praise for their respective successes and the promising performances of Bala and Airbus contributed to our most successful European campaign for well over a decade.” Sue Butler, S4C Sports Editor said: "We're very much looking forward to another thrilling football season on S4C with a new series of Sgorio in its new slot on Saturday afternoons. It's great that we can expand our provision this season to include the supporters outside the UK (on demand outside the UK on the S4C website) for the faithful supporters living abroad, and for new followers too." Dafabet WPL Secretary, Gwyn Derfel commented: "There’s no doubt that the standard of our National League is improving year on year. People are at long last starting to give it the credit it deserves. The opening weekend of fixtures I’m sure will offer people a lot of excitement as well as affordable family friendly football. It promises to be another good season in our National League here in Wales." LANSIAD UWCH GYNGHRAIR CYMRU DAFABET– TYMOR 2015/16 Yn dilyn gwahoddiad caredig gan David Melding AC (Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru), lansiwyd tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru Dafabet yn y Senedd ddydd Mawrth yng nghwmni chwaraewyr a chynrychiolwyr o’r deuddeg clwb. Dywedodd Mr Melding: “’Rydym yn hynod falch o gael y cyfle i gynnal y digwyddiad arbennig hwn yn y Senedd. Mae’n gyfnod addawol iawn i bêl-droed yng Nghymru a hoffwn ddymuno’r gorau i’r holl glybiau yn ystod y tymor i ddod”. Canmolodd Gadeirydd Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, Peter Rees berfformiadau’r clybiau yn Ewrop dros fisoedd yr haf:“Mae’r Seintiau Newydd a’r Drenewydd yn haeddu clod mawr am eu canlyniadau cofiadwy ac fe gyfranodd Y Bala ac Airbus hefyd tuag at ein hymgyrch orau yn Ewrop ers dros ddegawd a mwy”. Dywedodd Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C:"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau tymor cyffrous arall o bêl-droed ar S4C gyda chyfres newydd o Sgorio yn ei slot newydd ar brynhawn Sadwrn. Mae'n wych hefyd ein bod yn gallu ehangu'r gwasanaeth eleni i gynnwys y cefnogwyr y tu allan y DU, ar gyfer y cefnogwyr ffyddlon tramor, a denu diddordeb newydd hefyd." Ychwanegodd Gwyn Derfel (Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru Dafabet):"Does dim amheuaeth bod safon ein Cynghrair Cenedlaethol yn gwella bob blwyddyn ac o’r diwedd mae’n dechrau cael y sylw y mae’n ei haeddu. Bydd gemau’r penwythnos agoriadol yn siwr o gynnig digon o gyffro am bris rhesymol iawn i deuluoedd. Mae’n argoeli i fod yn dymor da arall yn ein Cynghrair Cenedlaethol yma yng Nghymru." Comments are closed.
|
Gem Nesaf
|
Ebost / Email: [email protected]
|
© 2024 Aberystwyth Town Football Club. All Rights Reserved
|
Cyfeiriad / Address: ATFC Ltd, Park Avenue, Aberystwyth, SY23 1PG.
|