Park Avenue, home of Aberystwyth Town, has been chosen as the host venue for this season’s Nathaniel MG Cup final between Cardiff Met and The New Saints of Oswestry Town. The final, traditionally the first of the Welsh football season, will be played on Saturday 20th January at 5.15pm, and will be shown live on S4C’s Sgorio. The ground has a long tradition of hosting major Welsh finals, and this will be the thirteenth time that Aber have hosted the final of this competition. Their last final was four seasons ago, when Carmarthen Town defeated Bala Town on penalties. Andrew Howard, FAW Head of Competitions, said: “We’re pleased to be taking this season’s final to Aberystwyth. Park Avenue has a good track record of hosting FAW cup finals, from this competition to Welsh Cup and FAW Trophy. We’re expecting a good game between two of the top sides in this season’s JD Welsh Premier League, and we’re hopeful that Met fans, Saints fans and neutrals alike will come out and support Welsh football’s first major final of the season.” Thomas Crockett, Marketing Director at Aberystwyth Town, said: “We’re delighted and honoured to be asked to host this prestigious cup final. We have a close relationship with both Cardiff Met and The New Saints, and therefore we’re excited to host this event. We’ll do everything we can to make sure it is a wonderful occasion and a celebration of Welsh football.” Ticketing information will be released in due course. Coedlan y Parc i gynnal Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MGMae Coedlan y Parc, Aberystwyth wedi ei ddewis i gynnal Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG y tymor hwn.
Met Caerdydd a’r deiliaid Y Seintiau Newydd fydd yn herio’i gilydd yn ffeinal fawr gyntaf y tymor pêl-droed ddydd Sadwrn yr 20fed o Ionawr gyda’r gic gyntaf yn fyw ar Sgorio am 5.15pm. Mae gan Goedlan y Parc draddodiad anrhydeddus o gynnal rowndiau terfynol. Yn wir dyma fydd y trydydd tro ar ddeg i’r maes gynnal rownd derfynol y gystadleuaeth hon. Bedwar tymor yn ôl, Caerfyrddin enillodd y ffeinal ddiwethaf yn Aberystwyth pan drechwyd Y Bala ar giciau o’r smotyn. Dywedodd Andrew Howard (Pennaeth Cystadlaethau CBDC): “Rydym yn falch ein bod wedi dewis Aberystwyth fel lleoliad ar gyfer y rownd derfynol. Mae gan Goedlan y Parc draddodiad balch o gynnal achlysuron pwysig dros y blynyddoedd, gan gynnwys rowndiau terfynol Cwpan Cymru a’r Tlws hefyd. ‘Rydym yn disgwyl gweld gornest gampus rhwng dau o brif glybiau Uwch Gynghrair Cymru JD ac rydym yn gobeithio y daw cefnogwyr Met, Y Seintiau a chefnogwyr di-duedd i brofi achlysur ffeinal fawr gyntaf y tymor pêl-droed.” Ychwanegodd Thomas Crockett, (Cyfarwyddwr Masnachol Clwb Aberystwyth): “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael cynnig y fraint o gynnal rownd derfynol bwysig fel hon. Mae gennym berthynas dda gyda’r Seintiau a Met Caerdydd ac ‘rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y bydd y digwyddiad yn llwyddiant,yn gofiadwy ac yn ddathliad o bêl-droed Cymru”. Bydd manylion tocynnau’n cael eu cyhoeddi maes o law. Comments are closed.
|
Gem Nesaf
|
Ebost / Email: [email protected]
|
© 2024 Aberystwyth Town Football Club. All Rights Reserved
|
Cyfeiriad / Address: ATFC Ltd, Park Avenue, Aberystwyth, SY23 1PG.
|