Taith clybiau pêl-droed i ddathlu cyffro’r Ewros - S4C shares the excitement with fans across Wales23/5/2016
Gydag ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA Euro 2016 yn Ffrainc yn goshau, mae S4C wedi trefnu taith clybiau ar hyd a lled Cymru i ddathlu cyffro’r Ewros gyda’r cefnogwyr. Bydd S4C yn dangos pob un o gemau grŵp yn fyw yn y gystadleuaeth Euro 2016 fis Mehefin, ond cyn croesi’r Sianel i Ffrainc bydd y tîm cyflwyno yn mynd ar daith i bump o glybiau pêl-droed Cymru. Ac fe fydd pob panel yn cynnwys un o gyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, pyndits sy’n fodlon cynnig barn liwgar a difyr. Yn y pum digwyddiad yng nghlybiau pêl-droed MBi Llandudno, Bangor, Y Bala, Penrhyncoch ger Aberystwyth a Chaerfyrddin ym mis Mai, byddan nhw’n trafod pêl-droed, cicio pêl neu ddwy a chael tipyn o sbort. Ac mae croeso i gefnogwyr ymuno â chriw cyflwyno Euro 16 S4C yn y digwyddiadau rhad ac am ddim pan fydd y cyflwynydd Dylan Ebenezer neu’r sylwebydd Nic Parry, yn cadw cwmni i gyn chwaraewyr fel Malcolm Allen, Iwan Roberts ac Owain Tudur Jones. Bydd y daith yn ymweld â’r clybiau yma ar y dyddiadau canlynol, gyda’r digwyddiad yn dechrau am 5.30yh ym mhob lleoliad: Nos Iau, 19 Mai - MBi Llandudno; Nos Wener, 20 Mai - Bangor; Nos Fawrth, 24 Mai - Bala; Nos Fercher; 25 Mai - Penrhyncoch; Nos Iau, 26 Mai - Caerfyrddin. Yn ogystal â holi’r sêr pêl-droed am obeithion Cymru yn y gystadleuaeth, bydd cyfle i gefnogwyr ifanc ddangos eu doniau a chael tips gan y cyn-chwaraewyr. Hefyd bydd y peldroediwr triciau Ash Randall - sydd â sawl record byd Guinness - yn dangos ei sgiliau anhygoel gyda’r bêl. Bydd cwis a raffl elusennol hefyd yn cael eu cynnal ym mhob clwb, gyda’r arian yn mynd at yr elusen Street Football Wales, elusen sy’n anelu at wella bywydau a chyfleoedd pobl ddigartref a phobl sydd wedi eithrio’n gymdeithasol yng Nghymru. Bydd offer cyfieithu a lluniaeth ysgafn ar gael ar y noson. Dywedodd Pennaeth Marchnata a Hyrwyddo S4C, Jane Felix Richards: “Rydym yn falch iawn yn S4C ein bod yn darlledu gemau grŵp Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA Euro 2016 yn fyw. Mae’r daith hon yn ffordd o ddathlu hynny ac yn gyfle i gwrdd, trafod a chael hwyl gyda dilynwyr y gêm.” With Wales’ historic UEFA Euro 2016 Championship campaign in France growing ever nearer, S4C will embark on a tour across Wales to spread the Euros excitement among supporters. S4C will be showing live coverage of each of Wales’ group stage matches in June, but before they make the journey across the Channel, the presentation team will be touring football clubs across Wales. And with some former Wales international players in the line-up, club members are in for some frank, interesting discussions. The five events will take place at MBi Llandudno, Bangor City, Bala Town, Penrhyncoch and Carmarthen Town football clubs, where the S4C team will be talking football and kicking a ball or two. Presenter Dylan Ebenezer or the commentator Nic Parry will host the evenings, and they will be joined by ex-Wales internationals, Malcolm Allen, Iwan Roberts and Owain Tudur Jones, and supporters are being invited to join in free of charge. The tour will be visiting these clubs on the following dates, starting at 5.30pm every evening: Thursday, 19 May - MBi Llandudno; Friday, 20 May – Bangor; Tuesday, 24 May – Bala; Wednesday, 25 May – Penrhyncoch; Thursday, 26 May - Carmarthen. Young fans will be given the chance to show off their skills and receive tips from the ex-internationals in a series of age-group kickabouts, while freestyle footballer Ash Randall – the holder of several Guinness World Records – will be displaying his jaw-dropping tekkers. There will also be an opportunity to hear from the S4C Euros team in a question and answer session, and supporters can also take part in an Euros-themed quiz and a raffle, with the proceeds going to the charity, Street Football Wales, that exists to improve the lives and opportunities for homeless and socially excluded people in Wales. Translation equipment and light refreshments will be available on each evening. S4C Head of Marketing and Promotions, Jane Felix Richards, said: “We are delighted to be showing each of the Wales team’s group games in this UEFA Euro 2016 Championships live on S4C. This Euros tour is a way of celebrating the team’s achievement and gives us a chance to meet, greet and have some fun with football fans.” Comments are closed.
|
Gem Nesaf
|
Ebost / Email: [email protected]
|
© 2024 Aberystwyth Town Football Club. All Rights Reserved
|
Cyfeiriad / Address: ATFC Ltd, Park Avenue, Aberystwyth, SY23 1PG.
|